Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 22 Mawrth
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4257
Gweld Cofnod y Trafodion
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.58, atebodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ran Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.
Gofynnwyd cwestiynau 1 – 8 a 10 - 11. Tynnwyd cwestiwn 9 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd y 5 cwestiwn.
Dechreuodd yr eitem am 14.42
I Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
David Rees (Aberafan): Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’u cynnal â Llywodraeth y DU ynghylch y penderfyniad i adeiladu carchar ym Mhort Talbot? EAQ(5)0124(CC)
Dechreuodd yr eitem am 15.07
Ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau.
Dechreuodd yr eitem am 15.07
NDM6259
Jeremy Miles
(Castell-nedd)
Lee Waters
(Llanelli)
Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Jayne Bryant
(Gorllewin Casnewydd)
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn)
Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru yn elwa ar arfordir hir a'r ail gyrhaeddiad llanw uchaf yn y byd.
2. Yn nodi ymhellach fod gweithgarwch economaidd yn gysylltiedig â'r môr eisoes yn werth tua £2.1 biliwn yng Nghymru, ac yn cynnal degau o filoedd o swyddi.
3. Yn credu y bydd ymrwymiad strategol i'r economi las yn galluogi Cymru i droi ein moroedd yn un o'n hasedion economaidd mwyaf.
4. Yn credu ymhellach y gall Cymru fod yn arweinydd ym maes ynni adnewyddadwy morol, twristiaeth a chwaraeon, pysgota, bwyd a dyframaethu, a gweithgynhyrchu a pheirianneg morol.
5.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Cynllun Morol uchelgeisiol i
gefnogi datblygiad cynaliadwy yr economi las, a'i gwneud yn elfen
ganolog o'i strategaeth economaidd newydd.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Datganiad y Llywydd
Am 15.57, gwnaeth y Llywydd ddatganiad yn sgil y digwyddiadau a oedd yn mynd rhagddynt yn San Steffan. Cymerwyd y camau diogelwch priodol yn y Cynulliad, ac roedd y mater yn cael ei adolygu’n rheolaidd. Dywedodd y Llywydd bod ein meddyliau gyda’n cydweithwyr a phawb yn San Steffan yn y cyfnod anodd hwn.
Dechreuodd yr eitem am 16.04
Datganiad y Llywydd
Am 16.17, bu i’r Llywydd ohirio trafodion y diwrnod yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, yn sgil yr hyn oedd yn cael ei drin i fod yn ddigwyddiad difrifol o frawychiaeth yn San Steffan. Caiff busnes y Cynulliad ei aildrefnu maes o law.
Daeth y cyfarfod i ben am 16.18
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Mawrth 2017.
Daeth y cyfarfod i ben am 16.18
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Mawrth 2017